CGBYC – Adran Y Dynion
Mae gan adran y dynion aelodaeth lewyrchus ac maent yn cynnal nifer helaeth o gystadlaethau yn ystod y flwyddyn.
Mae’r cystadlaethau yn agored i aelodau o bob safon ac maent yn amrywio o ran eu natur.
Mae’r clwb yn cynnal cystadlaethau 14 twll yn ystod y gaeaf a’r haf a chwaraeir y rhain ar fore Sul a nos Fercher. Mae’r gemau yma yn boblogaidd gyda’r aelodau oherwydd eu natur cymdeithasol.
Mae yna nifer o brif gystadlaethau sy’n cael eu cynnal ar ddydd Sadwrn neu ddydd Sul yn ystod yr haf. Defnyddir trefn medal a stableford ar gyfer y gemau yma.
Hefyd mae nifer o gystadlaethau her sy’n cael eu chwarae yn ystod yr haf ac mae’r rhain yn unigol neu fesul pâr.
Gellir gweld eich canlyniadau personol ar Adran Clwb Golff Betws y Coed ar safle we howdidido.co.uk.
Gan defnyddio’r linc isod…