“Perl yn y Dyffryn”
Wedi ei leoli ar lannau’r Afonydd Conwy a Llugwy, mae cwrs golff Betws-y-coed yn cynnig cynllun barcdir naw twll, par 64, prydferth a roddir sialens i golffwyr o unrhyw safon.
Mae’r naw twll yn cael eu chwarae ddwywaith, efo rhywfaint o symudiad yn lleoliad yr “tes” (fel gwelir ar fap y cwrs, isod). Mae ansawdd y cwrs, ynghyd a’i gefndir trawiadol wedi ei ennill y ffugenw “Perl yn y Dyffryn.”.
Yn mesur o dan 5,000 llath, tydi’r cwrs ddim yn un hir iawn, ond mae’i gymhlethdodau yn cyflwyno dipyn o sialens. Hefo pump o’r wyth twll par tri yn mesur dros 200 llath, a bynceri o gwmpas y lawntiau, mae’n gofyn am gywirdeb i sgorio’n llwyddiannus.
- Tees Cystadleuol y Dynion – Gwyn – Par 64
- Tees y Dynion / Ymwelwyr – Melyn – Par 64
- Tees y Merched – Coch – Par 66
Edrychwch ar ganllaw i’r cwrs am ragor o wybodaeth.

